Monday 24 June 2013

Ymlaen! - Onwards!

http://www.afal-oren.tumblr.com

Ma' genai flog newydd.  Ni fyddaf yn postio yma ar Hey Log dim mwy. Mi fydd y blog newydd yn cael ei ddiweddaru yn ddyddiol (mwy neu lai) yn hytrach na'n flynyddol (mwy neu lai) fel sy'n digwydd ar y funud. Dilynwch y linc uchod i weld y blog newydd. Diolch!

http://www.afal-oren.tumblr.com

I have a new blog. The Hey Log will not be updated from now on. You can visit the new blog via the link above. Thanks!

Monday 16 April 2012

Dau doodle efo llgada rhyfadd...



Ffocws!






Pry yn llygad - ar ôl reidio beic lawr Lôn Goed.

Fly in the eye - after cycling down Lôn Goed.


Monday 2 April 2012

Derwen




Dyma logo newydd DERWEN - Tîm Arbenigol Plant Anabl. Mae'r tîm yn gwasanaethu Gwynedd ac wedi cael enw newydd. Fe gysylltodd y gwasanaeth gyda fi ynglun a cael dylunio logo a delwedd i gyd fynd efo'r newid enw. Mi oeddynt yn awyddus i gael mewnbwn rhai o'r plant sydd yn gysylltiedig a'r gwasanaeth, felly mi gydweithiais gyda rhai o bobl ifanc Clwb Ieuenctid Canolfan Tŷ Cegin, Maesgeirchen i greu y goedden gardfwrdd sydd yn ymddangos yn y logo. Mi roedd y criw yn hollol wych ac fe beintiwyd lliwiau a patrymau gwefreiddiol. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r criw a'r staff yn Tŷ Cegin a Sian o'r Tîm Arbenigol am eu cymorth ac am neud fy ngwaith i mor hwylus!

Above is the new logo for DERWEN - Integrated Team for Disabled Children. The team serves Gwynedd and has recently been re-named. The service contacted me regarding designing a logo and image to go with their name-change. They wanted some of the young people connected with the service to have an input in the design process, I was lucky enough to get to work with some of the young people at Canolfan Tŷ Cegin Youth Club, Maesgeirchen, with whom I created the cardboard oak (derwen) which appears in the logo. The crew were brilliant and covered the tree with some awesome patterns and colours. I'm very grateful to the crew and staff at Tŷ Cegin and Sian from Derwen for their help and for making it a very enjoyable process.

Thursday 15 December 2011

..::..::..::'::..::..::.. cold weather surf


Gweddio am eira? Neu'n hapus bod o'n cadw draw? Pa ots! Dathlwch y Gaeaf a'i holl ryfeddodau drwy fyseddu eich ffordd draw i 'siop' Y Niwl ac archebu y Crys T arbennig hwn. A tra da chi yna de, prynwch yr album ar vinyl hefyd...
Celebrate the Winter and it's many wonderment's by fingering your way over to Y Niwl's 'shop' and purchasing this T-Shirt. Ace!
And while you're there, be sure to buy their album on vinyl too...

Thursday 29 September 2011

sengl, taith a crysau-T - single, tour and T's



Dyma glawr y sengl diweddaraf i mi ddylunio i'r Niwl. Mae ar gael i'w lawrlwytho o yniwl.com ac mi fydd y vinyl 7" ar gael mewn gigs. Mae'r Niwl yn teithio eto efo Gruff Rhys, gan gychwyn taith o Brydain dydd Sul yma (2ail o Hydref) yn Llandudno. Mi fyddaf yn edrych ar ol y stondin recordiau a crysau-T ar y daith, felly dowch draw am sgwrs os ydych yn mynychu un o'r nosweithiau. Mi fydd y crysau-T yma ar gael ymysg eraill...

Here is the cover I designed for the latest single by Y Niwl. Available to download from yniwl.com and on 7" vinyl from gigs. The band will be touring again with Gruff Rhys, begining a tour of the UK in Llandudno this Sunday (2nd October). I will be manning the merchandise stall during the tour, so be sure to come over for a chat if you're at one of the nights. Here are a couple of the T-shirts that will be available to buy...




Wednesday 28 September 2011

Surreal Birdwatching


Ar ol esgeuluso y blog am fisoedd lawer, roedd yn syndod braf i mi ganfod fod rhywun wedi gadael sylw yma tra oeddwn i ffwrdd. Diolch i Ray am ei eiriau clen ac am hysbysebu ei flogiau rhyfeddol: Wonderful Welsh; blog am ddysgu cymraeg, fedrai ddychmygu i fod yn hynod ddefnyddiol i ddysgwyr eraill ac yn hynod ddiddorol i siaradwyr cymraeg gan ei fod yn rhoid perspective gwahanol arni ac yn gofyn lot o gwestiynau diddorol. 'mostlybirdingwithray', blog gwylio adar swreal, gwerth ei ddilyn os ydych yn mwynhau'r hobi poblogaidd yma.

Yn ogystal, hoffwn ddiolch i Ray am dynnu fy sylw i'r faith fy mod wedi llenwi fy mlog efo lluniau o adar bach del, lliwiau pastel a ceffylau. Mewn ymgais wan i ymddangos chydig mwy gwrol, dwi'n postio llun o ddynes boeth yn mwynhau dau beint o gwrw.

Thank you Ray for being the second person to comment on this blog (any comments are welcome and will be appreciated.) Ray left some very kind words and introduced me to a couple of his ace blogs. Wonderful Welsh concerns the challenge of learning the welsh language, I imagine it's a great resource for fellow welsh learners but for me it's an interesting perspective on a language that I speak and write fluently but quite informally and without much thought. Mostlybirdingwithray is a surreal birdwatching blog; don't think I need to say anymore about that, except that it's well good.

I must also thank Ray for bringing to my attention the fact that I have filled this blog with pictures of cute little birds, pastel colours and pony's. In a weak attempt to appear more manly I post a picture of a hot woman enjoying two pints of beer.